Rhoddion & Gwirfoddoli
CEFNOGI AGE CONCERN CEREDIGION
Rydym yn byw mewn cymdeithas sy’n heneiddio ac yn y dyfodol bydd mwy o bobl nac erioed mewn perygl o fyw mewn tlodi ac yn dioddef o esgeulustra, anffafriaeth ac unigrwydd ofnadwy. Bydd yr angen am ein gwasanaeth yn sicr o gynyddu.
Bob blwyddyn, rydym yn helpu miloedd o bobl hŷn mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch ein cefnogi:
Rhoddi
Helpwch ni i wella bywydau pobl hŷn yng Ngheredigion drwy wneud rhodd drwy ddefnyddio un o’r dulliau canlynol; drwy’r post, gydag arian parod drwy ddefnyddio un o’n blychau casglu arian, archeb sefydlog neu roi trwy’r gyflogres.
Mae’r holl roddion yn mynd tuag at gefnogi pobl leol yn ac o amgylch Ceredigion. Gwnewch sieciau’n daladwy i Age Concern Ceredigion os gwelwch yn dda.
Cymorth Rhodd
Os ydych chi’n unigolyn sy’n talu treth ac rydych wedi dewis defnyddio’r post i wneud eich rhodd, cwblhewch ein Datganiad Rhodd Cymorth drwy roi clec ar y ddolen hon Ffuflen Dataganaid Rhodd Cymorth; argraffwch y ffurflen yna ei dychwelyd gyda’ch rhodd.
Gadewch Gymynrodd
Cewch ddiogelu dyfodol pobl hŷn drwy ein cofio gydag anrheg yn eich ewyllys.
Er Cof
Talwch deyrnged i fywyd ffrind neu berthynas tra hoff. Cofiwch amdanynt drwy ein cefnogi gyda rhodd yn hytrach na blodau.
Gwirfoddoli gyda Age Concern 
Mae dros 50,000 o bobl yn gwirfoddoli gydag Age Concern ar hyd a lled y wlad. Mae hynny’n tua phum gwirfoddolwr am bob aelod taledig o staff. Mae mwy na hanner o’r gwirfoddolwyr hyn yn 50 oed neu’n hŷn, ac eto er gwaetha’r niferoedd hyn rydym angen mwy o bobl i gynnig eu hamser, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad er mwyn cynorthwyo a chefnogi ein gwaith.
Pam Gwirfoddoli?
Age Concern Ceredigion yw’r elusen gyntaf yn y sir i ennill Gwobr Buddsoddwyr mewn Pobl, marc safon fydd yn gwella profiad gwirfoddolwyr yn ogystal â’r gwasanaethau i gleientiaid.
Rydym yn ymglymu gwirfoddolwyr o BOB oedran ac yn croesawu pobl o bob cwr o’n cymunedau amrywiol. Mae gwahanol bobl yn elwa mewn gwahanol ffyrdd o fod yn gwirfoddoli, ond mae rhai o’r rhesymau mwyaf poblogaidd yn cynnwys ennill sgiliau newydd, rhannu gwybodaeth, cael hwyl neu roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.
Gall y dewis o weithgareddau gwirfoddoli sydd gennym i’w gynnig fod yn syndod, bydd rhai pethau’n eich gweddu, ond nid popeth. Gallwch wirfoddoli i weithio mewn swyddfa Age Concern leol – mae pob Age Concern yn cynnig rhywbeth gwahanol yn lleol.
Gweithgareddau gwirfoddolwyr Age Concern Lleol:
- Gwybodaeth a Chyngor
- Eiriolaeth Gyllidol
- Siopa
- Ymweld a Chyfeillio
- Clybiau Cinio
- Torri Ewinedd Traed
- Gyrwyr
- Dosbarthiadau Cyfrifiadurol
- Caffi yn Llys yr Ynadon (Aberystwyth yn unig)
- Gwaith Swyddfa
- Ffrind ar y Ward
- Hyrwyddwr Cymunedol
- Fforwm Theatr
Cysylltwch â’ch Age Concern lleol a siaradwch gyda nhw ynglŷn â chyfleoedd gwirfoddoli neu cwblhewch y ffurflen isod ar-lein. Bydd angen i ddarpar wirfoddolwyr roi enw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn 2 ganolwr. Mae pob cais a dderbynnir yn amodol ar wiriad gorfodol gan yr Heddlu.
