Main navigation

Welcome to Age Concern Ceredigion

Working with and for older people in Ceredigion

Main search
Main content

Cyngor a Gwybodaeth

 Mae’r Gwasanaeth Cyngor a Gwybodaeth yn darparu gwasanaeth rhad ac am ddim a chyfrinachol i bobl sy’n 55 oed a hŷn.

Gellir cael gwybodaeth ar wahanol faterion yn amrywio o faterion ariannol i iechyd a gofal cymdeithasol, grantiau tai, gweithgareddau hamdden i unrhyw bwnc o ddiddordeb i bobl hŷn, eu gofalwyr a’u teuluoedd. Rydym hefyd yn helpu gyda llanw ffurflenni yn bennaf ar gyfer budd-daliadau lles. Rydym yn cynnig gwasanaeth ymweld â’r cartref. Os na allwn helpu byddwn yn eich cyfeirio at asiantaeth briodol.


Y DRETH GYNGOR A BUDD-DAL TAI

Yn ddiweddar fe wnaeth Age Concern Ceredigion dderbyn grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynorthwyo pobl hŷn yn y sir i ymgeisio am Fudd-dal y Dreth Gyngor a Budd-dal Tai. Dengys ymchwil mai pobl dros 60 oed yw’r rhai lleiaf tebygol i ymgeisio am y budd-daliadau hyn ac mae gan nifer ohonynt hawl iddynt.

Un o’r rhesymau pam fo pobl hŷn yn oedi rhag cysylltu â ni yw eu bod yn meddwl eu bod yn niwsans neu’n gwastraffu ein hamser. Peidiwch â meddwl hyn! Rydym yn sefydliad sydd wedi’n hymrwymo i gefnogi pobl hŷn a phe na bai pobl hŷn yn cysylltu â ni, fyddem ni ddim yma! Byddai’n well gennym pe bai rhywun yn dod atom a darganfod nad oes ganddynt hawl i unrhyw help, na phe na fyddent yn dod atom o gwbl.

Yn aml byddwn yn medru rhoi ateb i chi dros y ffôn, ar ôl i chi ateb ambell gwestiwn. Os yw hi’n ymddangos bod gennych hawl i un neu ddau fudd-dal, yna gallwn wneud apwyntiad i chi ddod mewn a llanw’r ffurflen berthnasol. Os na allwch ddod i un o’n swyddfeydd, gallwn drefnu ymweliad cartref.

Os ydych chi’n gymwys ar gyfer Gwarant Credyd Pensiwn, byddwch yn uniongyrchol gymwys i dderbyn Budd-dal y Dreth Gyngor, ac os yw’n berthnasol, Budd-dal Tai. Os nad ydych yn derbyn Credyd Pensiwn a bod eich cynilion yn llai na £16000, mae’n bosib y byddwch chi’n gymwys i dderbyn peth Budd-dal o hyd. Os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun, byddwch yn derbyn gostyngiad o 25% yn eich Treth Gyngor. Os oes gennych anabledd neu broblem iechyd meddwl, neu os ydych yn gofalu am rywun sydd â phroblemau iechyd meddwl, mae’n bosibl eich bod yn gymwys am ostyngiad hefyd.

 

Mae ein prosiect Gwybodaeth and Chyngor wedi galluogi pobl hun yn ein ardal i hawlio dros £1 filiwn o bunnoedd mewn cymorthdaliadau yn y cyfnod Chwefror 2009-10.

 

Fel gyda llawer o bethau mewn bywyd, yr unig ffordd i gael ateb yw gofyn a’r unig ffordd i’w dderbyn yw ymgeisio amdano. Mae Age Concern Ceredigion yma i’ch helpu chi gyda’r ddau beth. Cofiwch gysylltu â ni!

 

Mae’r Taflenni Gwybodaeth a Ffeithiau ar y wefan gyswllt yn Saesneg, gan mai gwasanaeth a ddarperir gan Age Concern drwy’r D.U. i gyd ydyw hi.

Rheolir y wefan sy’n cynnal y taflenni Gwybodaeth a Ffeithiau hyn gan Age Concern Lloegr ac felly ni ellir ei rheoli gan weinyddwr gwefan Age Concern Ceredigion.

 

Information fact sheets