Main navigation

Welcome to Age Concern Ceredigion

Working with and for older people in Ceredigion

Main search
Main content

Newyddion a Digwyddiadau

Er mwyn darllen newyddion cenedlaethol cliciwch yma ar gyfer Age Concern England ac yma ar gyfer Age Concern Cymru.


  

Newyddion

12.11.09 - Wobr Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr

Diolch am y gefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ac i Cynnal Ceredigion, mae Age Concern Ceredigion wedi llwyddo i gael y Wobr Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr. Mae hon wedi bod yn her werthfawr i’r sefydliad cyfan, ac mae’n rhaid diolch yn fawr i Carol Williams a Jane Raw-Rees, Rheolwyr y Prosiect, ac i’r holl staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cyfranogi yn y broses asesu. Bydd y cynllun hwn o ansawdd uchel yn ehangu ar brofiad y gwirfoddolwr a hefyd yn gwella gwasanaethau i gleientiaid.  Age Concern Ceredigion yw’r unig elusen yn y sir sydd wedi llwyddo i gael y marc ansawdd. Yn y llun mae Carol Williams (canol) gyda’r Athro Tecwyn Jones, Cadeirydd, a Rhodri Jones, CGGC, a gyflwynodd y wobr ynghyd â rhai o’r gwirfoddolwyr a gyfranogodd. Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, ewch i www.ageconcernceredigion.fsnet.co.uk neu ffoniwch 01970 615151.

IIV Award 2

 12.11.09 - Swyddfa Allgymorth Gwybodaeth a Chyngor

Tregaron – Neuadd Goffa, bob dydd Gwener  rhwng 10.00 a 12.00
Llanbedr Pont Steffan – Meddygfa Taliesin, bob dydd Llun rhwng 10.00 a 12.00

Bydd gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi’n llawn ar gael i gynnig cyngor a gwybodaeth ynglŷn â materion yn ymwneud â mynd yn hŷn, ond bydd y prif ffocws ar gynyddu incwm     a sut i hawlio budd-daliadau.

14.04.09 - Ers mis Chwefror 2008 mae prosiect Gwybodaeth a Chyngor Age Concern wedi helpu pobl hŷn i dderbyn mwy na £1 miliwn o bunnoedd mewn budd-daliadau.

 
Cysyllter â Gwyneth Jones
gwyneth.jones@accardigan.org.uk.


38 Pendre, Aberteifi, SA43 1JS 01239 615777