Gwasanaethau a Phrosiectau
Os hoffech ragor o wybodaeth ar unrhyw rai o’r eitemau a ganlyn, cliciwch ar y teitl mewn print bras a bydd hyn yn agor tudalen newydd gyda rhagor o wybodaeth. Ar ôl gorffen, caewch y ffenestr a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen hon ......neu defnyddiwch y ddewislen ar ochr chwith y dudalen hon...
Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau fel ymateb uniongyrchol i anghenion pobl hŷn yn y sir. Mae’r rhain yn cynnwys:
Ffoniwch ni, galwch mewn neu gwnewch apwyntiad am gyngor a gwybodaeth rhad ac am ddim a chyfrinachol ar bob pwnc o ddiddordeb i bobl hŷn, eu gofalwyr a’u teuluoedd. Rydym hefyd yn cynnig gwiriadau budd-dal lles rhad ac am ddim, help gyda llenwi ffurflenni ac ymweliadau â’r cartref i’r rheini nad ydynt yn gallu cyrraedd ein swyddfeydd.
Materion Ariannol – Gwasanaeth Eirioli
Cysylltwch â ni am gymorth ymarferol rhad ac am ddim gydag arian a materion eraill er mwyn helpu i gynnal annibyniaeth.
Dewch yn aelod o un o’n clybiau cinio, a gynhelir ledled y sir, am fwyd a chwmni da.
Mae glanhawyr cartref sy’n cael eu goruchwylio yn darparu’r gwasanaeth hwn am gost resymol. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad gan staff Glanhau yn y Cartref, a fydd yn ymweld â chi yn eich cartref i gytuno ar eich gofynion.
Gallwch wella a chynnal eich symudedd a’ch annibyniaeth drwy ymarfer corff rheolaidd gyda hyfforddwr cymwys. Cyngor ar atal cwympiadau a strategaethau i helpu i gynnal annibyniaeth.
I bobl ag anabledd sy’n eu rhwystro rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae’r gwasanaeth cyfyngedig hwn yn darparu trafnidiaeth drws i ddrws. Rhedir hwn mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion ac mae’n cynnwys ardal Aberystwyth yn unig. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Os ydych yn cael anhawster cyrraedd yr archfarchnad neu angen help wrth siopa, cysylltwch â ni i weld os allwn helpu.
Os ydych yn gwybod am rywun sy’n gaeth i’r tŷ, heb fawr o deulu o’u cwmpas ac y byddent yn hoffi cael ymweliad a sgwrs reolaidd gydag un o’n gwirfoddolwyr, cysylltwch â ni.
Mae’r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn ar gael lle mae gennym wirfoddolwyr, yn benodol yn ardaloedd Aberteifi ac Aberystwyth.
Cysylltwch ag unai
Jane Raw-Rees yn Aberystwyth – Ffôn 01970 615151
Neu
Gwyneth Jones yn Aberteifi – 01239 615777
Dosbarthiadau Cyfrifadur
Dysgwch sut i syrffio’r we a chadw mewn cysylltiad â’ch teulu drwy e-bost. Mae dosbarthiadau ar gael mewn rhai ardaloedd.
Teithiau a Digwyddiadau sydd wedi’u Trefnu
Yn rhai rhannau o’r sir gallwn drefnu teithiau i’r theatr neu’r sinema a gweithgareddau megis siopa Nadolig.
Bydis yn y Gymuned
Mae Bydis yn y Gymuned yn wirfoddolwyr yn y gymuned sy’n ffynhonnell wybodaeth ynghylch y gwasanaethau a ddarperir gan Age Concern Ceredigion. Os hoffech fod yn fydi yn y gymuned ar gyfer eich ardal chi, cysylltwch â ni.
Mae’r prosiect hwn yn fenter ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol Ceredigion a Chanolbarth Cymru ac Age Concern Ceredigion. Cynhelir clinigau yn; Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan, a rhoddir manylion am amseroedd agor y clinig ar y dudalen we.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Carol Williams yn ein swyddfa yn Aberaeron ar 01545 570055, neu Gwyneth Jones yn ein swyddfa yn Aberystwyth ar 01970 615151
Gwnewch ffrindiau newydd wrth helpu eraill. Dewiswch o blith amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli.
