Cwestiynau ac Atebion
Mae gan fy mam broblemau symudedd ac ni all gerdded yn bell iawn ond os byddaf yn parcio'n agosach at y siopau rwy'n ofni y byddaf yn cael tocyn parcio, beth allaf i ei wneud?
Mae’n bosibl bod eich mam yn gymwys ar gyfer Bathodyn Glas (bathodyn parcio i'r anabl). Mae pobl sy’n derbyn elfen symudedd cyfran uwch Lwfans Byw i'r Anabl yn bodloni’r meini prawf yn awtomatig. GALLAI pobl sy’n derbyn Lwfans Gweini fod yn gymwys gan ddibynnu ar wybodaeth a dderbyniwyd gan eu Meddyg Teulu. Mae ffurflenni cais y Bathodyn Glas ar gael o Ganolfan Gyswllt Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01545 574000 neu gallwch gysylltu â’ch swyddfa Age Concern Ceredigion lleol.
Mae gennyf berthynas sy’n dod i aros ac maent angen cadair olwyn, a oes unrhyw ffordd y gallaf fenthyg un am wythnos neu ddwy?
Mae’r Groes Goch Brydeinig yn gweithredu cynllun benthyca meddygol lle gall pobl fenthyg cadeiriau olwyn a chomodau am dâl nominal. Cysylltwch â’ch swyddfa Age Concern Ceredigion lleol am ragor o wybodaeth.
Mae fy mam wedi marw’n ddiweddar ac mae fy nhad yn profi anawsterau wrth baratoi ei fwyd ei hun, a oes unrhyw ffordd y gellir ei helpu?
Gallai Pryd ar Glud, a weithredir gan Wasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched, fod ar gael i'ch tad. Gellir gwneud trefniadau ar gyfer eu dosbarthu trwy ganolfan gyswllt Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01545 574000 neu cysylltwch â swyddfa Age Concern Ceredigion.
Rwy’n oer iawn yn fy nghartref a oes unrhyw beth y gallaf i ei wneud i wella’r gwresogi?
Mae Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES) ar gael i bobl ar rai budd-daliadau. Mae HEES yn cynnig grant o hyd at £2700 am bethau megis insiwleiddio’r llofft, newidiadau i’r gwresogi cyfredol, stopio drafft ayyb. Gellir gwneud atgyfeiriadau i'r cynllun trwy eich swyddfa Age Concern Ceredigion lleol.
Mae fy nhad yn profi anawsterau gyda phethau megis gwisgo ei hun ac ymolchi. A oes unrhyw help ar gael?
Gan ddibynnu ar oed eich tad, mae cymorth ariannol ar gael. Ar gyfer pobl sy'n iau na 65 oed mae Lwfans Byw i'r Anabl ar gael, ac mae Lwfans Gweini ar gael i’r rhai dros 65. Nid yw unrhyw un o’r budd-daliadau hyn wedi’u hasesu trwy brawf modd a gellir defnyddio’r arian mewn unrhyw ffordd y mae’r cleient ei eisiau, gan gynnwys talu am ofalwyr personol. Gall un o’n gweithwyr Cynghori hyfforddedig lanw’r ffurflenni ar eich rhan. Cysylltwch â’ch swyddfa Age Concern Ceredigion lleol am gymorth.
Rydym yn gobeithio ymweld â’n merch yn America ond nid yw’n siŵr a fyddwn yn gallu cael yswiriant teithio oherwydd ein hoed a’n hiechyd. A oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ynghylch pa gwmnïau yswiriant y dylem ni gysylltu â hwy?
Mae Masnachu Age Concern yn cynnig amrywiaeth eang o yswiriannau. Cysylltwch â’n swyddfa yng Ngwynedd ar 01286 678310.
Rwy’n pryderu ynghylch diogelwch cartref fy rhieni. Sut y gallaf i gael gweithiwr proffesiynol i wirio eu cartref?
Mae Gofal ac Atgyweirio yn cynnig cynllun gwirio diogelwch y cartref. Mae hwn yn wasanaeth ymweld â’r cartref i asesu a chynghori ar faterion diogelwch eiddo a materion diogelwch personol o fewn y cartref. Er mwyn cael eich atgyfeirio at y cynllun hwn, cysyllter â’ch swyddfa Age Concern Ceredigion lleol.
Mae fy mam yn byw ar ei phen ei hun, rwy'n byw 200 milltir i ffwrdd ac rwy'n pryderu amdani'n dod yn sâl neu'n cwympo ac ni fyddai unrhyw un yn gwybod. A oes unrhyw help ar gael?
Mae’n bosibl mai Larwm Pendant yw’r ateb i chi. Mae’r rhain ar gael trwy Wasanaethau Cymdeithasol neu trwy Age Concern. Cysylltwch â’ch swyddfa Age Concern Ceredigion lleol am ragor o wybodaeth.
Mae gennyf gymaint o gwestiynau ynghylch cymaint o bethau, a oes un lle y gallaf fynd i gael cymorth?
Mae gan Age Concern nifer o Ddalennau Ffeithiau ar amrywiaeth o faterion. Mae’r rhain ar gael ar-lein - cliciwch ar y cyswllt - neu trwy eich swyddfa Age Concern Ceredigion lleol.
Nid yw fy mam yn gallu mynd allan yn aml iawn a byddai’n hoffi cyfarfod ag eraill am sgwrs. Sut y gall hi wneud hyn?
Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i'ch mam. Gall eich swyddfa Age Concern Ceredigion lleol ei chyfeirio at Wasanaethau Cymdeithasol i fynychu un o’u Canolfannau Dydd, fe allai ymuno ag un o’r Clybiau Cinio niferus y mae Age Concern Ceredigion yn eu cynnal ar draws y sir, neu hwyrach y byddai ganddi ddiddordeb mewn ymuno â chlwb lleol. Beth bynnag fydd ei phenderfyniad, os gysylltwch â'ch swyddfa Age Concern Ceredigion lleol byddwn yn gallu eich helpu.
Os nad oes ateb i'ch cwestiwn yma, cysylltwch â’ch swyddfa Age Concern Ceredigion lleol a siaradwch ag un o’n cynghorwyr hyfforddedig.
